xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Cyswllt ac ymweliadauLL+C

95Hyrwyddo a chynnal cyswllt rhwng plentyn a theuluLL+C

(1)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod, oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu yn gyson â llesiant y plentyn, hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a—

(a)rhieni’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(2)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod y personau canlynol yn cael eu hysbysu’n rheolaidd am y man lle y mae’r plentyn yn cael ei letya—

(a)rhieni’r plentyn;

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(3)Rhaid i bob person a grybwyllwyd yn is-adran (2)(a) neu (b) sicrhau bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu’n rheolaidd am ei gyfeiriad.

(4)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod derbyn”) yn cymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i blentyn [F1oddi wrth awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 76 (“yr awdurdod trosglwyddo”)]

(a)rhaid i’r awdurdod derbyn (pan fo hynny’n rhesymol ymarferol) hysbysu—

(i)rhieni’r plentyn, a

(ii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)mae is-adran (2) yn gymwys i’r awdurdod trosglwyddo, yn ogystal â’r awdurdod derbyn, hyd nes y bydd o leiaf un o’r personau a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) o’r is-adran honno wedi cael ei hysbysu am y newid, ac

(c)nid yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson hysbysu’r awdurdod derbyn am ei gyfeiriad hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cael ei hysbysu o dan baragraff (a).

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu person am y man lle y mae plentyn, ac eithrio plentyn o dan 16 oed sy’n cael ei letya o dan adran 76, os oes gan yr awdurdod sail resymol dros gredu y byddai hysbysu’r person yn peryglu llesiant y plentyn.

(6)Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, ag is-adran (3) yn euog o drosedd ac yn atebol o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 95 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

96Ymweliadau’r teulu â’r plant neu ymweliadau â’r teulu gan blant: treuliauLL+C

(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)pan fo’r amodau a grybwyllir yn is-adran (4) wedi eu bodloni.

(2)Caiff yr awdurdod wneud taliadau mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y personau canlynol wrth ymweld â’r plentyn—

(a)rhiant i’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(3)Caiff yr awdurdod wneud taliadau i’r plentyn, neu i unrhyw berson ar ran y plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y plentyn neu ar ei ran wrth iddo ymweld â’r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2).

(4)Yr amodau yw—

(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fyddai’n bosib cynnal yr ymweliad o dan sylw fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 96 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

97Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau a chyswllt â phlant sy’n derbyn gofal a phlant eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)plentyn a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nid yw bellach yn derbyn gofal gan yr awdurdod o ganlyniad i amgylchiadau a bennwyd mewn rheoliadau;

(c)plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i reoliadau sy’n pennu categori at ddiben is-adran (1)(c) hefyd bennu’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan neu o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn y categori penodedig.

(3)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod person sy’n cynrychioli’r awdurdod (“cynrychiolydd”) yn ymweld â phlentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(b)trefnu bod cyngor a chymorth arall priodol ar gael i blentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(4)O ran y dyletswyddau a osodwyd gan is-adran (3)—

(a)maent i’w cyflawni yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)maent yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad sy’n gymwys i’r man lle y mae’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei letya.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon at ddibenion is-adran (4)(a) wneud darpariaeth am—

(a)amlder yr ymweliadau;

(b)yr amgylchiadau pan fo’n rhaid i gynrychiolydd ymweld â’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(c)swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun bod gan y person a ddewiswyd y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 97 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

98Ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd ar gyfer y plentyn os—

(a)yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennwyd mewn rheoliadau, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, yr ymddengys i’r awdurdod y byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.

(2)Rhaid i berson a benodir o dan yr adran hon ymweld â’r plentyn, ymgyfeillio ag ef a’i gynghori.

(3)Y mae hawlogaeth gan berson a benodir o dan yr adran hon i adennill oddi wrth yr awdurdod penodi unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(4)Daw penodiad person fel ymwelydd yn unol â’r adran hon i ben—

(a)os yw’r plentyn bellach wedi peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol,

(b)os bydd y person yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod penodi, neu

(c)os bydd yr awdurdod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ei fod wedi terfynu’r penodiad.

(5)Nid yw dod â phenodiad o’r fath i ben yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd o dan yr adran hon i wneud penodiad pellach.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn cynnig penodi ymwelydd ar gyfer plentyn o dan yr adran hon, ni chaniateir gwneud y penodiad—

(a)os yw’r plentyn yn ei wrthwynebu, a

(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.

(7)Pan fo ymwelydd wedi cael ei benodi i’r plentyn o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol ddod â’r penodiad i ben—

(a)os yw’r plentyn yn gwrthwynebu bod y penodiad yn parhau, a

(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.

(8)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi effaith i wrthwynebiad plentyn o dan is-adran (6) neu (7) a’r gwrthwynebiad yw bod unrhyw un yn cael ei benodi’n ymwelydd ar ei gyfer, nid oes yn rhaid i’r awdurdod gynnig penodi person arall o dan is-adran (1) hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y mae person i’w ystyried at ddibenion yr adran hon fel un sy’n annibynnol ar yr awdurdod penodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 98 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)