RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Adolygu achosion

I4I199Penodi swyddog adolygu annibynnol

1

Os yw awdurdod lleol yn gofalu am blentyn, rhaid iddo benodi unigolyn i fod yn swyddog adolygu annibynnol ar achos y plentyn hwnnw.

2

Rhaid gwneud y penodiad cychwynnol o dan is-adran (1) cyn i achos y plentyn gael ei adolygu gyntaf yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102.

3

Os yw swydd wag yn codi mewn perthynas ag achos plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penodiad arall o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

4

Rhaid i’r person a benodir ddod o fewn categori o bersonau a bennir mewn rheoliadau.

I6I5100Swyddogaethau’r swyddog adolygu annibynnol

1

Rhaid i’r swyddog adolygu annibynnol—

a

monitro’r modd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achos y plentyn;

b

cymryd rhan, yn unol â rheoliadau, mewn unrhyw adolygiad ar achos y plentyn;

c

sicrhau bod unrhyw ddymuniadau a theimladau canfyddedig y plentyn ynglŷn â’r achos yn cael eu hystyried yn briodol gan yr awdurdod lleol;

d

cyflawni unrhyw swyddogaeth arall a bennir mewn rheoliadau.

2

Rhaid i swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol gael eu cyflawni—

a

yn y modd a bennir mewn rheoliadau, a

b

gan roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd yr awdurdod hwnnw yn ei gyhoeddi mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau hynny.

3

Os bydd y swyddog adolygu annibynnol o’r farn ei bod hi’n briodol gwneud hynny, caniateir i achos y plentyn gael ei atgyfeirio gan y swyddog hwnnw at un o swyddogion achosion teuluol Cymru.

4

Os nad yw’r swyddog adolygu annibynnol yn swyddog i’r awdurdod lleol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod—

a

i gydweithredu â’r unigolyn hwnnw, a

b

i gymryd unrhyw gamau rhesymol y bydd ar yr unigolyn hwnnw eu hangen i alluogi swyddogaethau’r unigolyn hwnnw o dan yr adran hon i gael eu cyflawni yn foddhaol.

I8I3101Achosion a atgyfeirir

1

Mewn perthynas â phlant yr atgyfeirir eu hachosion at swyddogion achosion teuluol Cymru o dan adran 100(3), caiff yr Arglwydd Ganghellor drwy reoliadau—

a

estyn unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru mewn perthynas ag achosion teuluol (o fewn ystyr “family proceedings” yn adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000) i achosion eraill;

b

ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru yn cael eu cyflawni yn y modd a bennir gan y rheoliadau.

2

Nid yw’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

I2I7102Adolygu achosion ac ymchwilio i sylwadau

1

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i achos bob plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol gael ei adolygu yn unol â darpariaethau’r rheoliadau.

2

Ymhlith pethau eraill, caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer—

a

y modd y mae pob achos i’w adolygu;

b

yr ystyriaethau y mae hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos;

c

pryd y mae gofyn i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf a pha mor aml y bydd adolygiadau dilynol i’w cynnal;

d

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, cyn iddo gynnal unrhyw adolygiad, geisio barn—

i

y plentyn,

ii

rhieni’r plentyn,

iii

unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

iv

unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol,

gan gynnwys, yn benodol, farn y personau hynny mewn perthynas ag unrhyw fater penodol sydd i’w ystyried yn ystod yr adolygiad;

e

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, yn achos plentyn sydd o dan ei ofal—

i

adolygu’n gyson y cynllun o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) ar gyfer y plentyn ac, os yw’r awdurdod o’r farn bod angen newid o ryw fath, i ddiwygio’r cynllun, neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

ii

ystyried a ddylid gwneud cais i ddiddymu’r gorchymyn gofal;

f

ei gwneud yn ofynnol, yn achos plentyn mewn llety a ddarperir gan neu ar ran yr awdurdod—

i

os nad oes cynllun ar gyfer gofal y plentyn yn y dyfodol, i’r awdurdod lunio un,

ii

os oes cynllun o’r fath ar gyfer y plentyn, i’r awdurdod ei adolygu’n gyson ac, os yw o’r farn bod angen newid o ryw fath, iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

iii

ystyried a yw’r llety yn unol â gofynion y Rhan hon;

g

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi gwybod i’r plentyn, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw gamau y caiff ef neu hi gymryd o dan y Ddeddf hon neu Ddeddf Plant 1989;

h

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud trefniadau, gan gynnwys trefniadau gydag unrhyw gyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau ac y mae’n barnu bod y cyrff hynny yn briodol, i weithredu unrhyw benderfyniad y mae’n bwriadu ei wneud yn ystod yr adolygiad neu yn ganlyniad iddo;

i

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hysbysu’r canlynol am fanylion canlyniad yr adolygiad ac am unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i’r adolygiad—

i

y plentyn,

ii

rhieni’r plentyn,

iii

unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

iv

unrhyw berson arall y dylid, yn ei farn ef, ei hysbysu;

j

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod fonitro’r trefniadau a wnaed ganddo gyda golwg ar sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.