RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Gorfodi dyledion

I3I670Adennill costau, llog etc

1

Gellir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo.

2

Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn achos lle y gellid ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig, yn unol â rheoliadau o dan adran 68, oni bai—

a

bod yr awdurdod lleol wedi ceisio ymrwymo i gytundeb o’r fath â’r person y mae’r swm yn ddyledus ganddo, a

b

bod y person hwnnw wedi gwrthod.

3

Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill gan awdurdod lleol o dan is-adran (1) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

4

Gellir adennill swm o dan yr adran hon o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y daw’r swm yn ddyledus i’r awdurdod lleol.

5

Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (6) yn camliwio neu’n methu â datgelu (p’un ai’n dwyllodrus neu fel arall) i awdurdod lleol unrhyw ffaith o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon, mae’r symiau canlynol yn ddyledus i’r awdurdod gan y person hwnnw—

a

unrhyw wariant a dynnir gan yr awdurdod o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant, a

b

unrhyw swm y gellir ei adennill o dan yr adran hon ac nad yw’r awdurdod wedi ei adennill o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant.

6

Y personau yw—

a

oedolyn—

i

y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

ii

y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

b

oedolyn—

i

y darperir rhywbeth iddo er mwyn diwallu anghenion person arall am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

ii

y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

c

oedolyn o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â gofal a chymorth, neu (yn achos gofalwr) cymorth, ac y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol bod angen y gofal a’r cymorth hwnnw, neu’r cymorth hwnnw, ar—

i

plentyn, neu

ii

oedolyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon.

7

Gellir adennill y costau rhesymol a dynnir gan awdurdod lleol wrth adennill neu wrth geisio ag adennill swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo; ac mae is-adran (3) yn gymwys i adennill y costau hynny fel petaent yn symiau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt.

8

Caiff rheoliadau—

a

gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu’r dyddiad y daw swm yn ddyledus i awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon;

b

pennu achosion neu amgylchiadau lle na all awdurdod lleol adennill o dan yr adran hon swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

c

pennu achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol godi llog ar swm (gan gynnwys unrhyw gostau y gellid eu hadennill o dan is-adran (7)) sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

d

pan ellir codi llog, ddarparu—

i

bod rhaid iddo gael ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;

ii

na chaniateir ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

I2I171Creu arwystl dros fuddiant mewn tir

1

Pan fo person—

a

yn methu â thalu i awdurdod lleol swm y gallai’r awdurdod ei adennill o dan y Rhan hon, a

b

yn meddu ar fuddiant cyfreithiol neu lesiannol mewn tir yng Nghymru neu Loegr,

caiff yr awdurdod lleol greu arwystl o blaid yr awdurdod hwnnw dros fuddiant y person yn y tir i sicrhau bod y swm hwnnw’n cael ei dalu.

2

Pan fo gan y person fuddiannau mewn mwy nag un parsel o dir, caiff yr awdurdod lleol greu arwystl dros ba un bynnag o’r buddiannau hynny y mae’n ei ddewis.

3

Caiff yr arwystl fod mewn cysylltiad ag unrhyw swm y gallai’r awdurdod lleol ei adennill o dan y Rhan hon; ond mae hynny’n ddarostyngedig i is-adran (4).

4

Pan fo’r arwystl yn cael ei greu dros fuddiant cyd-denant ecwitïol mewn tir, ni chaniateir i swm yr arwystl fod yn fwy na gwerth y buddiant a fyddai gan y person yn y tir pe bai’r gyd-denantiaeth yn cael ei hollti (ond nid yw creu’r arwystl yn hollti’r gyd-denantiaeth).

5

Pan fo cyd-denant ecwitïol mewn tir y mae ei fuddiant yn y tir yn ddarostyngedig i arwystl o dan yr adran hon yn marw, mae buddiant y personau canlynol mewn tir yn dod yn ddarostyngedig i arwystl—

a

os oes unrhyw cyd-denantiaid sy’n goroesi, eu buddiannau yn y tir;

b

os yw’r tir wedi ei freinio mewn un person, neu y mae hawl gan un person i gael y tir wedi ei freinio ynddo ef, buddiant y person hwnnw yn y tir.

6

Ni chaniateir i swm yr arwystl sydd wedi ei greu o dan is-adran (5) fod yn fwy na swm yr arwystl yr oedd buddiant y cyd-denant ymadawedig yn ddarostyngedig iddo.

7

Rhaid i arwystl o dan yr adran hon gael ei greu gan ddatganiad ysgrifenedig a wneir gan yr awdurdod lleol.

8

Mae arwystl o dan yr adran hon, ac eithrio ffi dros fuddiant cyd-denant ecwitïol mewn tir—

a

yn achos tir anghofrestredig, yn bridiant tir Dosbarth B o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972;

b

yn achos tir cofrestredig, yn arwystl cofrestradwy sy’n dod yn weithredol fel arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol.

9

Pan fo swm yn destun arwystl dros fuddiant person mewn tir o dan yr adran hon, caniateir codi llog ar y swm hwnnw o’r diwrnod y mae’r person a grybwyllwyd yn is-adran (1) yn marw.

10

Cyfradd y llog y gellir ei godi o dan is-adran (9) yw—

a

cyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, neu

b

os nad oes rheoliadau wedi eu gwneud, cyfradd a ddyfernir gan yr awdurdod lleol.

I4I572Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd

1

Mae’r adran hon yn gymwys mewn achos pan fo anghenion person (“P”) wedi eu diwallu neu’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adrannau 35 i 42 neu adran 45 a phan fo—

a

person (“y trosglwyddwr”) (a gaiff fod yn P ond nid oes rhaid iddo) wedi trosglwyddo ased i berson arall (“trosglwyddai”),

b

y trosglwyddiad wedi ei wneud gyda’r bwriad o osgoi ffioedd am ddiwallu anghenion P, ac

c

naill ai’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad yn llai na gwerth yr ased neu na fo unrhyw gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad.

2

Mae’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng—

a

y swm y byddai’r awdurdod wedi ei godi ar y trosglwyddwr pe na bai’r ased wedi ei drosglwyddo, a

b

y swm a gododd ar y trosglwyddwr mewn gwirionedd.

3

Ond nid yw’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n fwy na’r budd a ddaw i’r trosglwyddai o’r trosglwyddiad.

4

Pan fo ased wedi ei drosglwyddo i fwy nag un trosglwyddai, mae atebolrwydd pob trosglwyddai yn gymesur â’r budd a ddaw i’r trosglwyddai hwnnw o’r trosglwyddiad.

5

Yn yr adran hon ystyr “ased” yw unrhyw beth y caniateir ei ystyried at ddibenion asesiad ariannol.

6

Gwerth ased (ac eithrio arian parod) yw’r swm a geid pe bai’r ased wedi ei werthu ar y farchnad agored gan werthwr bodlon adeg y trosglwyddiad, gan ddidynnu ar gyfer—

a

swm unrhyw lyffethair ar yr ased, a

b

swm rhesymol mewn cysylltiad â threuliau’r gwerthiant.

7

Caiff rheoliadau bennu achosion neu amgylchiadau pan na fo atebolrwydd o dan is-adran (2) yn codi.