xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AtodolLL+C

193Adennill costau rhwng awdurdodau lleolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a

(b)pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—

(i)i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu

(ii)gyda chydsyniad awdurdod B.

(2)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F1neu awdurdod lleol yn Lloegr], caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F2neu awdurdod lleol yn Lloegr] (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—

(a)cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,

(b)cartref cymunedol a reolir, neu

(c)ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.

(5)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(6)Ac eithrio lle y bo [F3“is-adran (7) neu (8)] yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) [F4, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),] mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol [F5neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(7)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

[F6(8)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—

(a)ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu

(b)y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,

caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.]

194Preswylfa arferolLL+C

(1)Pan fo gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth nad oes modd eu diwallu ond os yw’n byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau a bod yr oedolyn yn byw mewn llety yng Nghymru o fath a bennir felly, mae’r oedolyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir felly, yn yr ardal lle’r oedd yr oedolyn yn bresennol bryd hynny.

(2)Pan fo oedolyn, cyn iddo ddechrau byw yn ei lety presennol, yn byw mewn llety o fath a bennir felly (p’un a yw’r llety o’r un fath â’r llety presennol ai peidio), mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y cyfnod y dechreuodd yr oedolyn fyw mewn llety o fath a bennir felly yn gyfeiriad at ddechrau’r cyfnod y mae’r oedolyn wedi bod yn byw mewn llety o un neu fwy o’r mathau a bennir am gyfnodau olynol.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i ddyfarnu at ddibenion is-adran (1) a oes gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth na ellir eu diwallu ond os yw’r oedolyn yn byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau.

(4)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan ddeddfiad iechyd i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, yn yr ardal lle’r oedd y person yn bresennol bryd hynny.

[F7(4A)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw o dan yr adran honno wedi ei gosod arno.]

(5)Yn is-adran (4) ystyr “deddfiad iechyd” yw—

(a)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(b)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

(d)Gorchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14));

(e)Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009.

(6)Wrth ddyfarnu preswylfa arferol plentyn at ddibenion y Ddeddf hon, mae preswylfa’r plentyn yn y mannau a ganlyn i’w ddiystyru—

(a)ysgol neu sefydliad arall;

(b)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989;

(c)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid o dan Ran 1 o Ddeddf Cyfiawnder a Mewnfudo 2008;

(d)llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr;

(e)man a bennir mewn rheoliadau.

(7)Gweler hefyd adrannau 185(1) i (3) a 186(2) am ddarpariaeth o ran preswylfa arferol personau sydd mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc.

[F8(8)Am ddarpariaeth ynghylch lleoliadau trawsffiniol i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gweler Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 194 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

195Anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorthLL+C

(1)Mae anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson, i’w ddyfarnu arno gan—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru at y ddiben hwnnw (“person penodedig”).

[F9(1A)Pan fo anghydfod yn un y mae adran 30(2C) o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys iddo (cwestiynau ynghylch pa un a yw plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr), yna nid yw is-adran (1) yn gymwys.]

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (1); caiff y rheoliadau wneud, er enghraifft—

(a)darpariaeth i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu i berson tra bo anghydfod heb ei ddatrys;

(b)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol mewn anghydfod gymryd camau penodedig cyn cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(c)darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(d)darpariaeth ynghylch adolygu dyfarniad a wneir o dan is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 195 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F10195A.Troseddau a gyflawnir gan gyrff neu bartneriaethauLL+C

(1)Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Ddeddf hon, a phrofir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforaethol.

(3)Mae achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni o dan y Ddeddf hon gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un neu rai o’i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorfforaeth.

(4)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig pan y’i collfernir o drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu allan o gronfeydd y corff hwnnw.

(5)Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd o dan y Ddeddf hon, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn cael effaith fel pe bai corfforaeth wedi ei chyhuddo.

(6)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r corff neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r fath neu unrhyw aelod o’r fath, mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff yn euog o drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(7)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan bartneriaeth neu bartneriaeth yn yr Alban wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.]