xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CCWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 3LL+CGWASANAETHAU EIRIOLI

181Darparu gwasanaethau eirioliLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol ai peidio); mae hyn yn ddarostyngedig i adran 182.

(2)Mae “gwasanaethau eirioli” yn wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

(3)Caiff y rheoliadau bennu—

(a)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael iddynt;

(b)yr amgylchiadau y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael odanynt;

(c)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y caniateir, neu na chaniateir, i wasanaethau eirioli gael eu darparu ganddynt.

(4)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 181 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

182Darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadauLL+C

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i berson—

(a)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 173;

(b)at y diben o gyflwyno sylwadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person o dan adran 178;

(c)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i fod ar gael o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

(d)at ddibenion y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran [F1332BB of Ddeddf Addysg 1996][F169 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

(e)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol i fod ar gael o dan adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;

(f)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(2)Pan—

(a)bo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu ar gyfer person o dan adran 15, 17, 35, 36, 37 neu 38, a

(b)byddai rheoliadau o dan adran 181 (ar wahân i’r is-adran hon) yn gosod gofyniad ar awdurdod lleol i roi gwasanaethau eirioli ar gael i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r un materion,

nid yw’r gofyniad hwnnw yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 182(1)(d) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(3); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 182 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

F2183Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofalLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .