Adran 156 – Pŵer i gyfarwyddo bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu harfer
409.Mae adran 156 yn galluogi cyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 154 neu 155 i ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn ychwanegol at y rheini y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy, pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu ei bod yn hwylus gwneud hynny. Mae is-adran (2) yn cynnwys enghraifft o’r materion y caiff Gweinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth benderfynu a ddylai cyfarwyddyd fod yn gymwys i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ychwanegol.