Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 9 – Pŵer i ddyroddi cod ar gyfer helpu i sicrhau’r canlyniadau

15.Mae adran 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau a bennir yn y datganiad a ddyroddir o dan adran 8. Caiff y cod roi canllawiau ac, yn achos awdurdodau lleol, caiff hefyd osod gofynion. Mae enghreifftiau o’r materion y gellir eu nodi yn y cod yn cynnwys safonau ansawdd, mesurau perfformiad a thargedau perfformiad. Rhaid cyhoeddi’r cod presennol a rhaid peri i unrhyw fersiynau o’r cod nad ydynt bellach mewn grym fod ar gael.