Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 129 – Diddymu pŵer awdurdod lleol i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw

371.Mae adran 129 yn datgymhwyso o ran Cymru adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 sy’n rhoi i awdurdodau lleol y pŵer i symud person y mae angen gofal arno o’i gartref.