Adran 8 – Dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhau
14.Mae adran 8 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau llesiant sydd i’w sicrhau drwy ddarparu gofal a chymorth. Mae hefyd yn pennu dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid dyroddi’r datganiad, ac mae’n pennu’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiad. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad yn gyson a chânt ddiwygio’r datganiad os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn dyroddi neu ddiwygio’r datganiad a rhaid iddynt osod y datganiad a ddyroddwyd neu a ddiwygiwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gyhoeddi.