Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 6 – Plant Sy’N Derbyn Gofal a Phlant Sy’N Cael Eu Lletya

Adran 98 – Ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

283.Mae adran 98 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi person annibynnol i ymweld ag unrhyw blentyn y mae’r awdurdod yn gofalu amdano, os yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu pe byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.

284.Rhaid i berson a benodir yn ymwelydd o dan yr adran hon ymgyfeillio â’r plentyn a’i gynghori a chaiff hawlio gan yr awdurdod dreuliau a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

285.Daw penodiad yr ymwelydd annibynnol i ben unwaith y bydd y plentyn yn peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod; pan fydd yr ymwelydd yn ymddiswyddo; neu os bydd yr awdurdod lleol yn terfynu’r penodiad. Ni chaniateir penodi ymwelydd o dan yr adran hon os oes gan blentyn ddealltwriaeth ddigonol a’i fod yn gwrthwynebu bod y penodiad hwnnw yn cael ei wneud. Os yw’r plentyn yn gwrthwynebu cael ymwelydd penodol, nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol benodi person arall.

286.Caiff rheoliadau y caniateir eu gwneud o dan is-adran (9) bennu’r amgylchiadau pan fo person i’w ystyried fel un sy’n annibynnol.