Adran 67 – Dyletswydd i roi effaith i ddyfarniad ynghylch gallu i dalu ffi
233.Mae adran 67 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi effaith i’r dyfarniad ynghylch gallu person i dalu ffi (fel y’i dyfarnwyd yn unol â gofynion adran 66 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adran honno). Mae is-adran (2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd hon yn gymwys.