Adran 44 – Darpariaeth atodol ynghylch y dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwr
167.Mae adran 44 yn gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â’r dyletswyddau yn adrannau 40 a 42.
168.Os yw’n ddichonadwy gwneud hynny, caiff awdurdodau lleol ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth drwy ddarparu gwasanaethau i’r person y gofelir amdano, hyd yn oed pe na fyddai gan y person y gofelir amdano hawlogaeth i gael gwasanaethau yn ei hawl ei hun (o dan adrannau 35 neu 37).
169.Os nad yw’n ddichonadwy i’r awdurdod lleol ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano, yna rhaid i’r awdurdod lleol, i’r graddau y mae’n ddichonadwy, ganfod rhyw ffordd arall o ddiwallu rhai neu bob un o anghenion y gofalwr am gymorth.