Adran 194 – Preswylfa arferol
504.Mae is-adran (1) yn nodi pryd y mae oedolyn i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer, os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth yn gwneud trefniadau i’r oedolyn fyw mewn llety o fath penodol. O ganlyniad i’r trefniadau hyn, mae’n bosibl y bydd yr oedolyn yn symud i ardal arall. Yn y sefyllfa hon, effaith y ddarpariaeth hon yw y caiff yr oedolyn ei drin, at ddibenion y Ddeddf hon, fel pe bai’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniadau (ac nid yn yr ardal y mae wedi symud iddi).
505.Pan fo trefniadau wedi eu gwneud i’r oedolyn gael ei letya yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd y darpariaethau yn Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014 yn gymwys, os yw’r darpariaethau hynny wedi cychwyn cyn yr adran hon. Os nad ydynt, bydd adran 24 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â lleoliadau yn Lloegr yn unig, ac effaith hynny yw y bydd awdurdod lleol yng Nghymru yn parhau’n gyfrifol am oedolion sydd wedi eu lleoli mewn cartref gofal yn Lloegr.
506.Caiff rheoliadau bennu’r mathau o lety y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt a chânt wneud darpariaeth ynghylch a oes ar oedolyn angen am fath penodol o lety. Er enghraifft, gellid gwneud darpariaeth mewn rheoliadau i’r darpariaethau yn is-adran (1) fod yn gymwys os yw’r oedolyn wedi ei leoli mewn cartref gofal yn unig.
507.Mae is-adran (4) yn gymwys i oedolion a phlant. Os yw person yn cael ei dderbyn i’r ysbyty neu unrhyw lety arall a ddarperir o dan ddeddfiad iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n preswylio fel arfer yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer cyn iddo gael ei dderbyn. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal honno yn parhau i fod yn gyfrifol am ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer beth fydd yn digwydd os oedd y person heb breswylfa sefydlog cyn i’r llety gael ei ddarparu.
508.Mae is-adran (6) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phreswylfa arferol plentyn. Effaith y ddarpariaeth hon yw y caiff preswylfa arferol y plentyn ei ddyfarnu heb roi unrhyw sylw i unrhyw gyfnodau pan oedd y plentyn yn byw mewn mathau penodol o fannau, gan gynnwys ysgolion a llety awdurdod lleol. Er enghraifft, pan fo awdurdod lleol yn gwneud trefniadau i blentyn gael ei letya y tu allan i’w ardal, ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar statws preswylio arferol y plentyn.
509.Mae’r ddarpariaeth a wneir gan yr adran hon yn seiliedig ar ddarpariaeth a wnaed yn adran 24 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac adran 105 o Ddeddf Plant 1989.