Adran 176 – Sylwadau sy'n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etc
443.Mae adran 176 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau gan gategorïau penodol o blant a phobl ifanc ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 o’r Ddeddf, mewn perthynas â’r plant a’r bobl ifanc hynny. Mae hyn yn atgynhyrchu, i raddau helaeth, y ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn adran 24D o Ddeddf Plant 1989, sydd i’w datgymhwyso o ran Cymru.
444.Y plant a’r bobl ifanc y caiff eu sylwadau eu hystyried o dan y weithdrefn hon yw’r rhai a ddisgrifir yn y Ddeddf fel pobl ifanc categori 2, 3, 4, 5 neu 6 (gweler y nodiadau i adran 104 o’r Ddeddf). Yn eu hanfod mae’r rhain yn blant hŷn (16 neu 17 oed) sy’n derbyn gofal neu a fu gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol a phobl ifanc (18 oed neu’n hŷn) sydd fel rheol yn rhai sy’n gadael gofal. Diffinnir plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 74 o’r Ddeddf fel plentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu y darperir llety iddo gan yr awdurdod wrth i’r awdurdod arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol penodedig.
445.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau a gaiff osod gofynion ynghylch y weithdrefn y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei sefydlu o dan yr adran hon, a chânt bennu terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau. Mae awdurdod lleol o dan ddyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn a sefydlir ganddo o dan yr adran hon a rhaid i’r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a nodir yn y rheoliadau.