Adran 167 – Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth
427.Mae adran 167 yn darparu y caiff awdurdod lleol a BILl dalu tuag at sefydlu a gweithredu trefniadau partneriaeth drwy wneud taliadau yn uniongyrchol neu i ’gronfa gyfun’. Cânt hefyd ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety ac adnoddau eraill i’r bartneriaeth neu mewn cysylltiad â hi. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyllido’r trefniadau partneriaeth.