Adran 164 – Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol
422.Mae adran 164 yn darparu, os yw’r awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, yn gofyn i bartner perthnasol am ei gydweithrediad neu am ddarparu gwybodaeth, rhaid i’r partner perthnasol wneud hynny, oni fyddai’n anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun neu fel arall yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau ei hun. Rhaid i bartner perthnasol sy’n gwrthod cydweithredu neu ddarparu gwybodaeth roi rhesymau ysgrifenedig i’r awdurdod lleol yn esbonio ei benderfyniad i wrthod. Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.