Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

2014 dccc 4

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol; gwneud darpariaeth ynghylch gwella’r canlyniadau llesiant i bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth ac i ofalwyr y mae arnynt angen cymorth; gwneud darpariaeth ynghylch cydweithredu a phartneriaeth gan awdurdodau cyhoeddus gyda golwg ar wella llesiant pobl; gwneud darpariaeth ynghylch cwynion sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol a gofal lliniarol; ac at ddibenion cysylltiedig.

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:C3C1C2C4

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)
C3

Deddf wedi ei eithrio (1.4.2015) gan Care Act 2014 (c. 23), a. 127(1), Atod. 1 para. 1(1) (ynghyd ag Atod. 1 parau. 8, 14); O.S. 2015/993, ergl. 2(i)(x) (ynghyd â darpariaethau trosiannol yn O.S. 2015/995)

C1

Deddf wedi ei eithrio (1.4.2015) gan Care Act 2014 (c. 23), a. 127(1), Atod. 1 para. 3(2) (ynghyd ag Atod. 1 parau. 8, 14); O.S. 2015/993, ergl. 2(i)(x) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995)

C2

Deddf wedi ei eithrio (1.4.2015) gan Care Act 2014 (c. 23), a. 127(1), Atod. 1 para. 4(2)(b) (ynghyd ag Atod. 1 parau. 8, 14); O.S. 2015/993, ergl. 2(i)(x) (ynghyd â darpariaethau trosiannol yn O.S. 2015/995)