Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

7Datrys anghydfodau am symiau taladwy

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo anghydfod yn codi rhwng perchennog ceffyl ac awdurdod lleol o ran—

(a)y swm y mae perchennog y ceffyl yn atebol i’w dalu i’r awdurdod lleol o dan adran 4(1) neu 5(4), neu

(b)y swm y mae’r awdurdod lleol yn atebol i’w dalu i berchennog y ceffyl o dan adran 5(5).

(2)Caiff perchennog y ceffyl, o fewn cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod y mae’r perchennog yn cael hysbysiad o dan adran 4(3) neu 5(7), gyfeirio’r anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys datganiad o’r rhesymau dros godi anghydfod am y swm.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan is-adran (2) rhaid iddynt anfon yr hysbysiad ymlaen i’r awdurdod lleol.

(4)Caiff yr awdurdod lleol gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod y caiff yr hysbysiad a anfonwyd ymlaen iddo o dan is-adran (3).

(5)Caniateir i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu unrhyw wybodaeth a all yn eu barn hwy eu cynorthwyo wrth iddynt ddatrys yr anghydfod.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ddatrys yr anghydfod drwy benderfynu ar swm yr atebolrwydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.

(7)Pan fo’r anghydfod yn ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 4(1), ni chaiff yr awdurdod waredu’r ceffyl tra bo’r anghydfod yn aros iddo gael ei ddatrys gan Weinidogion Cymru.