I15Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw

1

Yn ddarostyngedig i adran 7, mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl o dan adran 2—

a

os nad yw perchennog y ceffyl na pherson sy’n gweithredu ar ran perchennog y ceffyl wedi cysylltu â’r awdurdod lleol cyn pen y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod perthnasol, neu

b

os yw perchennog y ceffyl neu berson sy’n gweithredu ar ran perchennog y ceffyl wedi cysylltu â’r awdurdod lleol cyn pen y cyfnod hwnnw, er iddo gael hysbysiad o dan is-adran (3) o adran 4, wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) o’r adran honno cyn pen y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod pan gafwyd yr hysbysiad.

2

Ystyr y “diwrnod perthnasol”—

a

os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan adran 3(4), yw’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad hwnnw, a

b

fel arall, y dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn gosod yr hysbysiad o dan adran 3(1).

3

Caiff yr awdurdod lleol werthu’r ceffyl neu ei waredu fel arall (gan gynnwys drwy drefnu i’w ddifa).

4

Pan nad oes unrhyw enillion yn codi o’r gwarediad, neu pan fo swm y costau a dynnir mewn cysylltiad â’r gwarediad yn fwy na swm y cyfryw enillion, mae perchennog y ceffyl yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm unrhyw gostau a dynnwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, neu’r swm hwnnw sydd dros ben.

5

Pan fo swm unrhyw enillion sy’n codi o’r gwarediad yn fwy na swm y costau a dynnwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, mae’r awdurdod lleol yn atebol i dalu’r swm sydd dros ben i berchennog y ceffyl.

6

Ond nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw swm i berson os yw’r awdurdod lleol wedi talu’r swm hwnnw yn flaenorol i berson yr oedd yn credu’n rhesymol mai hwnnw oedd perchennog y ceffyl.

7

Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r perchennog sy’n datgan y swm y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod y perchennog yn atebol i’w dalu o dan is-adran (4) neu y mae’r awdurdod lleol yn atebol i’w dalu o dan is-adran (5) ac yn cynnwys esboniad o—

a

sut y pennwyd y swm hwnnw, a

b

yr hawl i gyfeirio anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru a sut i arfer yr hawl honno.