Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

2Pŵer awdurdod lleol i ymafael mewn ceffylauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw briffordd, neu mewn unrhyw fan cyhoeddus arall, yn ardal yr awdurdod lleol os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod y ceffyl yno heb awdurdod cyfreithlon.

(2)Caiff awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw dir arall yn ardal yr awdurdod lleol os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i gredu—

(a)yn achos tir y mae’r awdurdod lleol yn feddiannydd arno, bod y ceffyl yno heb ganiatâd yr awdurdod lleol, neu

(b)yn achos tir arall yn ardal yr awdurdod lleol, bod y ceffyl yno heb ganiatâd meddiannydd y tir a bod y meddiannydd yn caniatáu i’r awdurdod lleol ymafael ynddo a’i gadw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 mewn grym ar 28.1.2014, gweler a. 10(1)