2Pŵer awdurdod lleol i ymafael mewn ceffylau

(1)

Caiff awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw briffordd, neu mewn unrhyw fan cyhoeddus arall, yn ardal yr awdurdod lleol os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod y ceffyl yno heb awdurdod cyfreithlon.

(2)

Caiff awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw dir arall yn ardal yr awdurdod lleol os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i gredu—

(a)

yn achos tir y mae’r awdurdod lleol yn feddiannydd arno, bod y ceffyl yno heb ganiatâd yr awdurdod lleol, neu

(b)

yn achos tir arall yn ardal yr awdurdod lleol, bod y ceffyl yno heb ganiatâd meddiannydd y tir a bod y meddiannydd yn caniatáu i’r awdurdod lleol ymafael ynddo a’i gadw.