Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 Nodiadau Esboniadol

Adran 7 – Datrys anghydfodau am symiau taladwy

18.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo perchennog ceffyl yn herio’r swm y mae’r awdurdod lleol yn honni bod y perchennog yn atebol i’w dalu i’r awdurdod lleol o dan adran 4(1) neu 5(4); neu’r swm sy’n daladwy gan yr awdurdod lleol i berchennog y ceffyl o dan adran 5(5).

19.Caiff perchennog y ceffyl, o fewn 7 niwrnod ar ôl cael hysbysiad o dan adran 4(3) neu 5(7), gyfeirio’r anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru. Rhaid i’r perchennog, yn yr hysbysiad hwnnw i Weinidogion Cymru, roi datganiad o’r rhesymau dros herio’r swm a hawlir neu’r swm sy’n daladwy iddo, yn ôl fel y digwydd. Rhaid i Weinidogion Cymru anfon unrhyw hysbysiad o’r fath ymlaen at yr awdurdod lleol perthnasol, a chânt wneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn darparu iddynt unrhyw wybodaeth a all, yn eu barn hwy, eu cynorthwyo i ddatrys yr anghydfod. Caiff yr awdurdod lleol perthnasol hefyd gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o fewn 7 niwrnod ar ôl cael gan Weinidogion Cymru yr hysbysiad o’r atgyfeiriad gan y perchennog.

20.Rhaid i Weinidogion Cymru ddatrys yr anghydfod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.

21.Pan fo’r anghydfod yn ymwneud ag adran 4(1), ni chaiff yr awdurdod waredu’r ceffyl cyn bo’r anghydfod wedi ei ddatrys.

Back to top