Cyflwyniad
1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014. Fe'u lluniwyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
Sylwebaeth Ar Yr Adrannau
Adran 1 – Trosolwg
2.Mae adran 1 yn rhoi trosolwg o’r darpariaethau yn y Ddeddf. Mae 3 adran i'r Ddeddf.
Adran 2 – Dyletswyddau ariannol y Byrddau Iechyd Lleol
3.Mae adran 2(2) i (6) yn manylu ar y newidiadau penodol i adran 175 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (‘Deddf 2006’) sydd eu hangen er mwyn symud Byrddau Iechyd Lleol o ddyletswydd ariannol flynyddol i un a gaiff ei mesur dros gyfnod cyfrifyddu treigl o dair blynedd. Ceir enghraifft o sut y caiff y ddyletswydd ariannol ei hasesu dros gyfnod cyfrifyddu treigl o dair blynedd yn Nhabl 1. Ceir enghraifft o sut y bydd y ddyletswydd ariannol yn adran 175 fel y'i diwygiwyd yn gweithredu yn Nhabl 2.
Table 1– Illustration of how the financial duty is assessed over a rolling three year accounting period
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 |
---|---|---|---|---|---|
X | |||||
X | |||||
X | |||||
X |
4.Bydd yr asesiad cyntaf (X) o'r ddyletswydd ariannol yn digwydd ar ddiwedd 2016/17. (Dim ond y pedwar cyfnod cyfrifyddu dair blynedd cyntaf y mae'r tabl hwn yn eu dangos).
Table 2 – Local Health Board performance for the three year accounting period ending 31 March 2017
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | Aggregate | |
---|---|---|---|---|
Net operating costs | X1 | X2 | X3 | X1+X2+X3 |
Expenditure Limit | Y1 | Y2 | Y3 | Y1+Y2+Y3 |
Under/(over) spend against Expenditure Limit | =(Y1+Y2+Y3)-(X1+x2+x3) |
5.Os nad yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwario dros ei derfyn gwariant (a bennir gan Weinidogion Cymru) yn y cyfnod cyfrifyddu treigl o dair blynedd, caiff ei asesu fel ei fod wedi cyflawni ei ddyletswydd ariannol.
6.Fel y'i diwygiwyd mae adran 175(1) o Ddeddf 2006 yn creu dyletswydd i bob Bwrdd Iechyd Lleol reoli ei wariant ym mhob cyfnod cyfrifyddu treigl o dair blynedd fel nad yw’n fwy na'i gyllid ar gyfer y cyfnod hwnnw, a chaiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ddarostyngedig i orswm y caniateir ei oddef.
7.Mae adrannau 175(2) a (2A) o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyfarwyddo pob Bwrdd Iechyd Lleol i lunio, a chyflwyno i'w gymeradwyo, gynllun sy'n nodi sut y bydd yn cydymffurfio â'i ddyletswydd ariannol gan gyflawni ei gyfrifoldebau hollgyffredinol ar yr un pryd i'r bobl hynny y mae'n darparu gwasanaethau iechyd iddynt.
8.Mae adran 175(6A) o Ddeddf 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gydymffurfedd pob Bwrdd Iechyd Lleol â'i ddyletswydd ariannol. Rhaid cyflwyno'r adroddiad cyntaf cyn 31 Mawrth 2018 a phob blwyddyn wedi hynny.
9.Yn rhinwedd adran 2(7) o'r Ddeddf hon, mae adran 176 o Ddeddf 2006 wedi ei diddymu.
Adran 3 – Enw byr a chychwyn
10.Mae'r adran hon yn darparu bod y Ddeddf hon yn dod i rym, yn llawn, ar 1 Ebrill 2014.
Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
11.Mae'r tabl a ganlyn yn nodi'r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7575
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 30 Medi 2013 |
Cyfnod 1 – Dadl | 8 Hydref 2013 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 7 Tachwedd 2013 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 3 Rhagfyr 2013 |
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad | 3 Rhagfyr 2013 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 27 Ionawr 2014 |
- Previous
- Explanatory Notes Table of contents
- Next