xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014

2014 dccc 2

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth mewn perthynas â dyletswyddau ariannol y Byrddau Iechyd Lleol.

[27 Ionawr 2014]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae prif ddarpariaeth y Ddeddf hon yn diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 fel bod y ddyletswydd bresennol ar bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru i sicrhau nad yw ei wariant yn uwch na’i gyllid mewn blwyddyn ariannol yn dod, yn lle hynny, yn ddyletswydd i sicrhau nad yw ei wariant yn uwch na’i gyllid dros gyfnod o dair blynedd ariannol; a chaiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ddarostyngedig i orswm y caniateir ei oddef.

Diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

2Dyletswyddau ariannol y Byrddau Iechyd Lleol

(1)Mae Pennod 6 o Ran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle is-adran (1) o adran 175 (dyletswyddau ariannol y Byrddau Iechyd Lleol) rhodder—

(1)Each Local Health Board must, in respect of each three-year accounting period, perform its functions so as to secure that its expenditure which is attributable to the performance by it of its functions in that period (not including its general ophthalmic services expenditure) does not exceed the aggregate of—

(a)the amount allotted to it for each financial year in that period under section 174(1)(b),

(b)any sums received by it in each financial year in that period under any other provision of this Act, and

(c)any sums received by it in each financial year in that period otherwise than under this Act for the purpose of enabling it to defray any such expenditure,

by an amount that is more than is determined in writing by the Welsh Ministers.

(3)Yn lle is-adran (2) o adran 175 rhodder—

(2)The Welsh Ministers must give directions to a Local Health Board requiring it—

(a)to prepare a plan which sets out its strategy for securing that it complies with the duty under subsection (1) while improving—

(i)the health of the people for whom it is responsible, and

(ii)the provision of health care to such people;

(b)to do such other things as appear to be requisite to secure that it complies with that duty.

(4)Ar ôl is-adran (2) o adran 175 mewnosoder—

(2A)A Local Health Board does not comply with a direction given to it under subsection (2)(a) unless the plan prepared in accordance with that direction has been submitted to and approved by the Welsh Ministers.

(5)Ar ôl is-adran (6) o adran 175 mewnosoder—

(6A)The Welsh Ministers must, in relation to each three-year accounting period, report to the National Assembly for Wales before the end of the financial year following that period on whether each Local Health Board has complied with the duty under subsection (1).

(6)Ar ddiwedd adran 175 mewnosoder is-adran newydd—

(8)Three-year accounting period” means a period of three years which begins with the first day of a financial year, so that the first begins with 1 April 2014 and ends with 31 March 2017 and the second begins with 1 April 2015 and ends with 31 March 2018 (and so on).

(7)Mae adran 176 (terfynau adnoddau ar gyfer y Byrddau Iechyd Lleol) wedi ei diddymu.

(8)Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 8 (darpariaeth bellach ynghylch gwariant y Byrddau Iechyd Lleol) yn lle “to 176” rhodder “and 175”.

(9)Ym mharagraff 2 o Atodlen 8 daw’r testun presennol yn is-baragraff (1) a mewnosoder—

(2)In section 175 “expenditure” includes the use of resources through their consumption or reduction in value.

Cyffredinol

3Enw byr a chychwyn

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014.

(2)Daw’r Ddeddf hon i rym ar 1 Ebrill 2014.