Cyffredinol

11Cychwyn

(1)

Daw adran 9, yr adran hon ac adran 12 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)

pennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion;

(b)

cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad y Ddeddf hon i rym.