Cyffredinol
10Adolygu gweithrediad y Ddeddf
Rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2016, adolygu gweithrediad y Ddeddf hon gyda’r bwriad yn benodol o asesu ei heffaith ar—
(a)
ariannu addysg a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond sydd heb gyrraedd 19 oed,
(b)
y ddarpariaeth Gymraeg mewn sefydliadau o’r fath, ac
(c)
y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath.