SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU A’R ATODLENNI
Adran 1 – Benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellach
8.Mae adran 19 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gwneud darpariaeth i CABau gael amryw bwerau atodol. Effaith y diwygiadau y mae'r adran hon yn eu gwneud i adran 19 yw dileu'r gofyniad i CABau yng Nghymru gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn iddynt arfer pwerau atodol penodol. Y pwerau o dan sylw yw eu pwerau i fenthyca arian, i ffurfio cwmni neu i fuddsoddi mewn cwmni, neu i ddod yn aelod o sefydliad elusennol corfforedig at ddibenion cynnal sefydliad addysgol.
Adran 2 – Offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellach
9.Mae'r adran hon yn diwygio adran 20 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n ei gwneud yn ofynnol i offerynnau ac erthyglau llywodraethu CABau gydymffurfio â gofynion penodedig. Mae'n cyflwyno Atodlen 1 (sy'n disodli Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) i wneud darpariaeth newydd, sy’n llai rhagnodol, ynghylch cynnwys offerynnau ac erthyglau llywodraethu CABau yng Nghymru.
10.Mae'r adran hefyd yn cyflwyno adran newydd yn lle’r adran 22 a 22ZA gyfredol o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Effaith hyn yw dileu pŵer Gweinidogion Cymru i addasu, dirymu neu ddisodli offerynnau ac erthyglau llywodraethu CABau yng Nghymru a rhoi'r pŵer i CABau yng Nghymru addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu.
Atodlen 1 – Offeryn ac erthyglau llywodraethu
11.Mae Atodlen 1 yn disodli Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae'r Atodlen 4 newydd yn nodi'r elfennau hanfodol y mae'n ofynnol i SABau eu cynnwys yn eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu. Bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i SABau nodi, er enghraifft, rolau a chyfrifoldebau personél allweddol a sut y gall SAB newid ei offeryn a'i erthyglau llywodraethu. Bydd rhaid i gyrff llywodraethu SABau gynnwys staff a myfyrwyr fel llywodraethwyr ynghyd â chynrychiolwyr busnesau lleol neu gyflogwyr lleol. Bydd rhaid hefyd i SAB ymgynghori â phersonau yn ei ardal leol ynghylch yr addysg y mae’n ei darparu a’r modd y caiff ei gwricwlwm ei gynllunio.
Adran 3 – Diddymu corfforaethau addysg bellach
12.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â diddymu CABau drwy roi adrannau 27 i 27B newydd yn lle’r adrannau 27 i 27C presennol o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Effaith hyn yw dileu pŵer Gweinidogion Cymru i ddiddymu CABau a throsglwyddo eu heiddo, eu hawliau a'u rhwymedigaethau i ddarparwr addysg arall. Yn lle hynny, bydd gan CABau y pŵer i’w diddymu eu hunain, cyhyd â'u bod wedi cyhoeddi'r cynigion a chynnal ymgynghoriad llawn gan ystyried barn y rhai yr ymgynghorwyd â hwy, yn unol â rheoliadau. Mae hefyd yn rhoi'r gallu i CABau drosglwyddo eu heiddo, eu hawliau neu eu rhwymedigaethau i gorff arall at ddibenion addysgol, a chyda chydsyniad y corff hwnnw. Caiff y math o gorff ei bennu mewn rheoliadau.
Adran 4 – Sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu
13.Mae adrannau 29B a 29C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch offerynnau ac erthyglau sefydliadau dynodedig (ac eithrio'r rhai a gynhelir gan gwmni neu sy'n esempt o dan y gorchymyn dynodi). Mae'r adran hon yn rhoi adran 29B newydd yn lle’r adrannau 29B a 29C cyfredol. Effaith hyn yw dileu'r gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i sefydliadau dynodedig allu addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu a dileu pŵer Gweinidogion Cymru i addasu a disodli erthyglau ac offerynnau llywodraethu. Yn lle hynny, bydd gan sefydliadau dynodedig yng Nghymru y pŵer i addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu eu hunain. Bydd gofynion yr Atodlen 4 newydd i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y’i disodlwyd gan Atodlen 1 i'r Ddeddf hon) yn gymwys i'r offerynnau a'r erthyglau llywodraethu.
14.Mae'r adran hon hefyd yn diwygio adrannau 29A ac 31 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 fel nad oes rhaid mwyach i offerynnau ac erthyglau llywodraethu cyntaf sefydliadau dynodedig ar ôl eu dynodi gynnwys darpariaeth ynghylch aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru.
Adran 5 – Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach
15.Mae'r adran hon yn diwygio adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn SAB (drwy wneud newidiadau i'r corff llywodraethu neu drwy ddyroddi cyfarwyddiadau), os ydynt o’r farn bod y SAB yn cael ei gamreoli neu'n methu mewn rhyw ffordd arall. Mae'r diwygiad yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau ymyrryd, yn gallu cyfarwyddo corff llywodraethu CAB i ddefnyddio ei bwerau newydd i’w ddiddymu ei hun. Os bydd hyn yn digwydd, caiff y CAB ei thrin fel pe bai wedi dilyn y gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori a nodir yn adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y’i hamnewidiwyd gan adran 3 o'r Ddeddf).
16.Mae'r adran hon hefyd yn diddymu adran 57A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae'r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio, cyhoeddi ac adolygu datganiad polisi mewn cysylltiad ag arfer eu pwerau ymyrryd.
Adran 6 – Diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadau
17.Mae'r adran hon yn diwygio adrannau 33J a 33L o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 ac adrannau 116I a 116K o Ddeddf Addysg 2002. Mae'r darpariaethau hynny yn ymwneud â chynllunio a darparu cwricwla lleol yng Nghymru, sef cwricwla awdurdod lleol cyfan a sefydlir gan awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru. Effaith y diwygiadau yw dileu'r gofyniad i SABau gydymffurfio â chyfarwyddiadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynllunio cwricwla lleol a chydweithio i ddarparu cwricwla lleol. Fodd bynnag, rhaid i SABau barhau i roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â chynllunio a darparu cwricwla lleol.
Adran 7 – Diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach
18.Mae'r adran hon yn diddymu adran 139 o Ddeddf Addysg 2002 fel na chaiff Gweinidogion Cymru bellach wneud rheoliadau sy'n gwahardd SABau rhag darparu cyrsiau addysg uwch heb eu cymeradwyaeth ac sy'n rheoleiddio niferoedd a chategorïau myfyrwyr ar gyrsiau o'r fath.
Adran 8 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
19.Mae'r adran hon yn cyflwyno Atodlen 2 sy'n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i amryw Ddeddfau a Gorchymyn a Mesur, o ganlyniad i adrannau eraill yn y Ddeddf hon.
Adran 9 – Cyflenwi gwybodaeth mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr
20.Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch. Mae adran 24 o'r Ddeddf honno yn galluogi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i roi gwybodaeth mewn perthynas â gweithrediad y cynllun benthyciadau i fyfyrwyr i'r Ysgrifennydd Gwladol ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon (ac i'r rhai y maent wedi trosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau penodol iddynt), ond nid i Weinidogion Cymru.
21.Mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru a gallant ddirprwyo'r swyddogaethau hynny o dan adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (e.e. i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr).
22.Yn absenoldeb sail gyfreithiol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth o'r fath i Weinidogion Cymru, rhaid i ymgeiswyr am gymorth i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o incwm yr aelwyd wrth wneud cais am gymorth i fyfyrwyr. Nid yw'r trefniant cyfredol yn caniatáu i dystiolaeth o incwm yr aelwyd gael ei wirio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
23.Mae'r adran hon yn diwygio adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 er mwyn ychwanegu Gweinidogion Cymru a'r personau neu'r cyrff hynny sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru neu sy'n arfer swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr ar eu rhan, fel personau y gall Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth iddynt. Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflenwi gwybodaeth o dan y ddarpariaeth hon ar incwm yr aelwyd fel y bydd y rhai sy'n cael yr wybodaeth yn gallu gwirio ffigurau a ddarperir mewn ceisiadau am gymorth ariannol sy'n dibynnu ar brawf modd heb fod angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ddogfennol.
24.Mae'r adran hon hefyd yn estyn adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 fel bo pŵer Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i rannu gwybodaeth yn ymwneud â grantiau a wneir gan Weinidogion Cymru yn ogystal â benthyciadau.
Adran 10 – Adolygu gweithrediad y Ddeddf
25.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2016, adolygu gweithrediad y Ddeddf. Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith y Ddeddf ar ariannu addysg a ddarperir i’r rhai sy’n 16 i 18 oed mewn SABau yng Nghymru. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ystyried effaith y Ddeddf ar y ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg ac anghenion dysgu ychwanegol mewn SABau yng Nghymru. Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys meysydd eraill yn yr adolygiad hefyd.
Atodlen 1
26.Mae Atodlen 1 wedi ei chyflwyno drwy adran 2.
Atodlen 2
27.Mae Atodlen 2 wedi ei chyflwyno drwy adran 8.