Y CEFNDIR

4.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i roi effaith i gynigion i gynyddu rhyddidau colegau, gan roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu trefniadau llywodraethu a diddymu eu hunain. Nid yw’n newid prif bwerau colegau i ddarparu addysg bellach, addysg uwch ac (o fewn rhai terfynau) addysg uwchradd. Un o’r ystyriaethau allweddol sy’n llywio’r darpariaethau yw penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu SABau fel rhan o lywodraeth ganolog at ddiben Cyfrifon Gwladol.

5.Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn moderneiddio’r ffordd y caiff cyllid myfyrwyr ei ddarparu drwy wneud y broses yn fwy effeithlon. Bydd y Ddeddf yn cyfrannu at hyn drwy sefydlu sail gyfreithiol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru (ac eraill sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, neu sy'n arfer eu swyddogaethau) mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr.

6.Cyhoeddwyd Papur Gwyn yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2012 a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r Papur Gwyn ym mis Mawrth 2013.