xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CyffredinolLL+C

10Adolygu gweithrediad y DdeddfLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2016, adolygu gweithrediad y Ddeddf hon gyda’r bwriad yn benodol o asesu ei heffaith ar—

(a)ariannu addysg a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond sydd heb gyrraedd 19 oed,

(b)y ddarpariaeth Gymraeg mewn sefydliadau o’r fath, ac

(c)y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I2A. 10 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(i)

11CychwynLL+C

(1)Daw adran 9, yr adran hon ac adran 12 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion;

(b)cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 11 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

12Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 12 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)