Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

3Mapiau llwybrau presennolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)llunio map llwybrau presennol, a

(b)ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map llwybrau presennol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(4)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,

(b)y materion sydd i’w dangos arno, ac

(c)ei ffurf.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.

(6)Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol gyflwyno iddynt hefyd—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau (os o gwbl) y mae unrhyw un neu ragor o’r llwybrau teithio llesol a ddangosir arno yn peidio â chydymffurfio â’r safonau a bennir yn y canllawiau a roddir o dan adran 2(6), a

(b)esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu, er hynny, ei bod yn briodol iddynt gael eu hystyried yn llwybrau teithio llesol.

(7)Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon ar unrhyw achlysur ac eithrio’r achlysur cyntaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad iddynt hefyd yn pennu sut y mae lefel y defnydd o lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol wedi newid ers yr achlysur blaenorol pan gyflwynodd yr awdurdod lleol fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—

(a)ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a

(b)ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(9)Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt—

(a)ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4) wrth ei lunio, a

(b)ystyried cynnwys y datganiad a’r esboniad a gyflwynwyd o dan is-adran (6).

(10)Unwaith y bydd map llwybrau presennol a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,

(b)caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac

(c)rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ar bob achlysur y caiff map rhwydwaith integredig yr awdurdod lleol ei gyflwyno i’w gymeradwyo o dan adran 4.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu achlysur sy’n wahanol i’r hyn a bennir yn is-adran (10)(c) fel yr achlysur y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 14(1)

I2A. 3 mewn grym ar 25.9.2014 gan O.S. 2014/2589, ergl. 2