Mapiau

3Mapiau llwybrau presennol

(1)

Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)

llunio map llwybrau presennol, a

(b)

ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)

At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map llwybrau presennol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)

Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—

(a)

pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a

(b)

unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(4)

Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)

yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,

(b)

y materion sydd i’w dangos arno, ac

(c)

ei ffurf.

(5)

Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)

cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu

(b)

os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.

(6)

Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol gyflwyno iddynt hefyd—

(a)

datganiad ynghylch i ba raddau (os o gwbl) y mae unrhyw un neu ragor o’r llwybrau teithio llesol a ddangosir arno yn peidio â chydymffurfio â’r safonau a bennir yn y canllawiau a roddir o dan adran 2(6), a

(b)

esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu, er hynny, ei bod yn briodol iddynt gael eu hystyried yn llwybrau teithio llesol.

(7)

Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon ar unrhyw achlysur ac eithrio’r achlysur cyntaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad iddynt hefyd yn pennu sut y mae lefel y defnydd o lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol wedi newid ers yr achlysur blaenorol pan gyflwynodd yr awdurdod lleol fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—

(a)

ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a

(b)

ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(9)

Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt—

(a)

ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4) wrth ei lunio, a

(b)

ystyried cynnwys y datganiad a’r esboniad a gyflwynwyd o dan is-adran (6).

(10)

Unwaith y bydd map llwybrau presennol a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—

(a)

rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,

(b)

caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac

(c)

rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ar bob achlysur y caiff map rhwydwaith integredig yr awdurdod lleol ei gyflwyno i’w gymeradwyo o dan adran 4.

(11)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu achlysur sy’n wahanol i’r hyn a bennir yn is-adran (10)(c) fel yr achlysur y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.