Cyflwyniad

2Ystyr “llwybr teithio llesol” a “cyfleusterau cysylltiedig” etc.

(1)

At ddibenion y Ddeddf hon mae llwybr mewn ardal awdurdod lleol yn llwybr teithio llesol—

(a)

os yw’r llwybr mewn man ddynodedig yn yr ardal, a

(b)

os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn briodol iddo gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol.

(2)

Yn yr adran hon ystyr “llwybr” yw priffordd, neu unrhyw lwybr arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, (gan gynnwys croesfan priffordd neu unrhyw lwybr o’r fath) ac y caiff cerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, ei ddefnyddio’n gyfreithlon.

(3)

Yn y Ddeddf hon ystyr “cerddwyr a beicwyr” yw—

(a)

pobl sy’n cerdded,

(b)

pobl sy’n defnyddio beiciau pedal, ac eithrio beiciau pedal sy’n gerbydau modur at ddibenion Deddf Traffig Ffyrdd 1988, ac

(c)

pobl anabl nad ydynt o fewn paragraff (a) na (b) sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur, sgwteri symudedd neu gymhorthion symudedd eraill.

(4)

Yn y Ddeddf hon ystyr “dynodedig”, mewn perthynas â man, yw wedi ei phennu, neu o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu man, neu ddisgrifiad o fan, drwy gyfeirio at—

(a)

dwysedd ei phoblogaeth,

(b)

ei maint,

(c)

ei hagosrwydd at fannau dwys eu poblogaeth sy’n fwy na maint penodol,

(d)

ei safle rhwng y cyfryw fannau,

(e)

ei hagosrwydd at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol, neu

(f)

y potensial, am resymau eraill, i fod yn fan, neu’n ddisgrifiad o fan, lle y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud mwy o deithio a hynny trwy deithiau teithio llesol.

(6)

Wrth ystyried a yw’n briodol i lwybr gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol, rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i’r canlynol—

(a)

a yw’r llwybr yn hwyluso gwneud teithiau teithio llesol gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, a

(b)

a yw lleoliad, natur a chyflwr y llwybr yn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio yn ddiogel gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad ar gyfer gwneud y teithiau hynny,

a rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(7)

Yn y Ddeddf hon ystyr “taith teithio llesol” yw taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill.

(8)

At ddibenion y Ddeddf hon ystyr “cyfleusterau cysylltiedig”, mewn perthynas â llwybr teithio llesol, yw—

(a)

cyfleusterau sy’n rhoi lloches, cyfleusterau gorffwys neu gyfleusterau storio,

(b)

toiledau neu gyfleusterau ymolchi,

(c)

arwyddion, neu

(d)

cyfleusterau eraill,

sydd ar gael i’w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, sy’n defnyddio’r llwybr teithio llesol.

(9)

Wrth benderfynu a yw unrhyw beth yn gyfleusterau cysylltiedig at ddibenion y Ddeddf hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.