Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

[F110CCanllawiau i awdurdodau ynghylch eu swyddogaethau o dan adran 10BLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdodau o dan adran 10B.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau hefyd i unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 10B(3) ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdod o dan y rheoliadau.

(3)Cyn rhoi neu ddiwygio canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)yr awdurdod neu’r awdurdodau y mae’r canllawiau yn ymwneud ag ef neu â hwy, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i awdurdod y rhoddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 10B neu, yn ôl y digwydd, reoliadau a wneir o dan yr adran honno.]