Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

[F110BAwdurdodau lleol ac awdurdodau eraill yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arnoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yn eu hardaloedd.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo o dan adran 4(9)(c), rhaid iddo hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n pennu pa gamau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn ystod—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf sy’n ofynnol gan yr is-adran hon, y cyfnod sy’n dechrau pan fydd is-adran (1) yn dod i rym ac sy’n dod i ben pan gyflwynir y map, a

(b)yn achos pob adroddiad dilynol, y cyfnod ers iddo gyhoeddi adroddiad o dan yr is-adran hon ddiwethaf.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol—

(a)gosod dyletswydd ar unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir yn y rheoliadau i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gyhoeddi adroddiadau, mewn cysylltiad â chyfnodau a bennir yn y rheoliadau, ynghylch y camau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) ond pennu awdurdod cyhoeddus os yw’r awdurdod yn awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)Cyn pennu awdurdod cyhoeddus mewn rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod ynghylch y cynnig.

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(7)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.]