Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

[F110AGweinidogion Cymru yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arnoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad ynghylch y camau y maent yn cynnig eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r datganiad cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adran hon ddod i rym, a

(b)parhau i adolygu’r datganiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad ar unrhyw adeg, ac os ydynt yn gwneud hynny rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd sy’n pennu pa gamau y maent wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod hwnnw o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

(6)Yn is-adran (5), ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

(7)Nid yw is-adran (5) yn atal Gweinidogion Cymru rhag cyhoeddi adroddiadau ychwanegol sy’n pennu’r camau y maent wedi eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).]