10Dyletswydd i arfer swyddogaethau i hyrwyddo teithio llesolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn modd sydd wedi ei ddylunio i—
(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a
(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.
(2)Rhaid i bob awdurdod lleol roi adroddiad i Weinidogion Cymru yn pennu’r hyn y mae wedi ei wneud ym mhob blwyddyn ariannol wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir arno gan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 14(1)
I2A. 10 mewn grym ar 25.9.2014 gan O.S. 2014/2589, ergl. 2