xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth—

(a)ar gyfer mapiau a gymeradwyir o lwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,

(b)ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig a gymeradwyir o’r llwybrau teithio llesol newydd a gwell a’r cyfleusterau cysylltiedig y mae eu hangen i greu rhwydweithiau integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fapiau rhwydwaith integredig wrth lunio polisïau trafnidiaeth ac i sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell,

(d)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar deithio llesol yng Nghymru,

(e)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, wrth gyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr a rhoi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol eraill, ac

(f)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell.

2Ystyr “llwybr teithio llesol” a “cyfleusterau cysylltiedig” etc.

(1)At ddibenion y Ddeddf hon mae llwybr mewn ardal awdurdod lleol yn llwybr teithio llesol—

(a)os yw’r llwybr mewn man ddynodedig yn yr ardal, a

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn briodol iddo gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol.

(2)Yn yr adran hon ystyr “llwybr” yw priffordd, neu unrhyw lwybr arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, (gan gynnwys croesfan priffordd neu unrhyw lwybr o’r fath) ac y caiff cerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, ei ddefnyddio’n gyfreithlon.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cerddwyr a beicwyr” yw—

(a)pobl sy’n cerdded,

(b)pobl sy’n defnyddio beiciau pedal, ac eithrio beiciau pedal sy’n gerbydau modur at ddibenion Deddf Traffig Ffyrdd 1988, ac

(c)pobl anabl nad ydynt o fewn paragraff (a) na (b) sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur, sgwteri symudedd neu gymhorthion symudedd eraill.

(4)Yn y Ddeddf hon ystyr “dynodedig”, mewn perthynas â man, yw wedi ei phennu, neu o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu man, neu ddisgrifiad o fan, drwy gyfeirio at—

(a)dwysedd ei phoblogaeth,

(b)ei maint,

(c)ei hagosrwydd at fannau dwys eu poblogaeth sy’n fwy na maint penodol,

(d)ei safle rhwng y cyfryw fannau,

(e)ei hagosrwydd at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol, neu

(f)y potensial, am resymau eraill, i fod yn fan, neu’n ddisgrifiad o fan, lle y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud mwy o deithio a hynny trwy deithiau teithio llesol.

(6)Wrth ystyried a yw’n briodol i lwybr gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol, rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i’r canlynol—

(a)a yw’r llwybr yn hwyluso gwneud teithiau teithio llesol gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, a

(b)a yw lleoliad, natur a chyflwr y llwybr yn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio yn ddiogel gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad ar gyfer gwneud y teithiau hynny,

a rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “taith teithio llesol” yw taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill.

(8)At ddibenion y Ddeddf hon ystyr “cyfleusterau cysylltiedig”, mewn perthynas â llwybr teithio llesol, yw—

(a)cyfleusterau sy’n rhoi lloches, cyfleusterau gorffwys neu gyfleusterau storio,

(b)toiledau neu gyfleusterau ymolchi,

(c)arwyddion, neu

(d)cyfleusterau eraill,

sydd ar gael i’w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, sy’n defnyddio’r llwybr teithio llesol.

(9)Wrth benderfynu a yw unrhyw beth yn gyfleusterau cysylltiedig at ddibenion y Ddeddf hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.