RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Trwyddedau safle

7Dyroddi trwydded safle

(1)

Caiff awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer tir os oes gan yr ymgeisydd, pan ddyroddir y drwydded safle, hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio i ddefnyddio’r tir fel safle i gartrefi symudol heblaw drwy orchymyn datblygu.

(2)

Os oes gan yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio o’r fath ar y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 2 fis ar ôl y dyddiad hwnnw neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

(3)

Os caiff yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio rywbryd ar ôl rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn cael yr hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

(4)

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu peidio â dyroddi trwydded safle o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)

rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros y penderfyniad ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan baragraff (b),

(b)

caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad, ac

(c)

ni chaniateir hawlio digollediad am golled a ddioddefir yn sgil y penderfyniad hyd nes y ceir canlyniad yr apêl.

(5)

Rhaid i awdurdod lleol beidio ar unrhyw adeg â dyroddi trwydded safle i berson y gŵyr yr awdurdod lleol ei fod wedi dal trwydded safle a ddirymwyd o dan adran 18 neu 28 lai na 3 blynedd cyn yr adeg honno.

(6)

Pan fo awdurdod lleol yn methu penderfynu ar gais am drwydded safle o fewn y cyfnod y mae’n ofynnol iddo wneud hynny, nid oes trosedd o dan adran 5 wedi ei gyflawni o ran y tir gan y person a wnaeth y cais am y drwydded safle ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw hyd nes bod penderfyniad ar y cais wedi ei wneud.