Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

56Pŵer i ddarparu safleoedd i gartrefi symudolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod lleol o fewn ei ardal ddarparu safleoedd lle y gellir dod â chartrefi symudol, boed at wyliau neu at ddibenion dros dro eraill neu i’w defnyddio’n breswylfeydd parhaol, a chânt reoli’r safleoedd neu eu lesio i berson arall.

(2)Mae gan awdurdod lleol bŵer i wneud unrhyw beth y mae’n ymddangos iddo ei fod yn ddymunol mewn cysylltiad â darparu safleoedd o’r fath ac mae’r pethau y mae ganddo bŵer i’w gwneud yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)caffael tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol neu sydd wedi ei osod allan fel safle i gartrefi symudol,

(b)darparu unrhyw wasanaethau er eu hiechyd neu er eu cyfleuster i’w defnyddio gan y rhai sy’n meddiannu safleoedd cartrefi symudol, ac

(c)darparu lle gweithio a chyfleusterau i gynnal gweithgareddau y maent yn arfer eu cynnal, mewn safleoedd ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr neu mewn cysylltiad â’r safleoedd hynny.

(3)Wrth arfer ei bwerau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

(4)Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (1) i ddarparu safle rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub—

(a)o ran mesurau sydd i’w cymryd i atal a chanfod tân ar y safle, a

(b)o ran darparu a chynnal a chadw dulliau ymladd tân arno.

(5)Rhaid i awdurdod lleol godi unrhyw daliadau rhesymol y bydd yn penderfynu arnynt mewn perthynas â safleoedd a reolir ganddo, ac ag unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir neu y trefnir eu bod ar gael o dan yr adran hon.

(6)Caiff awdurdod lleol drefnu bod gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan yr adran hon ar gael i bersonau p’un a ydynt yn byw fel arfer yn ei ardal neu beidio.

(7)Caiff awdurdod lleol, os yw’n ymddangos iddo—

(a)bod angen safle i gartrefi symudol neu safle ychwanegol i gartrefi symudol yn ei ardal, neu

(b)y dylai’r awdurdod lleol gymryd drosodd tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol er lles defnyddwyr cartrefi symudol lleol,

gaffael tir, neu unrhyw fuddiant mewn tir, yn orfodol.

(8)Nid yw’r pŵer a roddir gan is-adran (7) yn arferadwy mewn unrhyw achos penodol ond os yw’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i’w arfer.

(9)Mae Deddf Caffael Tir 1981 yn effeithiol o ran caffael tir, neu fuddiant mewn tir, o dan is-adran (7).

(10)Nid oes gan awdurdod lleol bŵer o dan yr adran hon i ddarparu cartrefi symudol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 56 addaswyd (5.11.2013) gan 1995 c. 25, Atod. 9 para. 4A(a) (fel y mewnosodwyd gan Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (anaw 6), a. 64(1), Atod. 4 para. 8(3) (ynghyd ag Atod. 5 para. 7) (Mae'r diwygiad hwn yn cael ei drin fel nad yw'n cael effaith tan 1.10.2014 yn rhinwedd O.S. 2014/11, ergl. 3(2)))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 56 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)