RHAN 5PWERAU’R AWDURDODAU LLEOL

56Pŵer i ddarparu safleoedd i gartrefi symudol

(1)

Caiff awdurdod lleol o fewn ei ardal ddarparu safleoedd lle y gellir dod â chartrefi symudol, boed at wyliau neu at ddibenion dros dro eraill neu i’w defnyddio’n breswylfeydd parhaol, a chânt reoli’r safleoedd neu eu lesio i berson arall.

(2)

Mae gan awdurdod lleol bŵer i wneud unrhyw beth y mae’n ymddangos iddo ei fod yn ddymunol mewn cysylltiad â darparu safleoedd o’r fath ac mae’r pethau y mae ganddo bŵer i’w gwneud yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)

caffael tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol neu sydd wedi ei osod allan fel safle i gartrefi symudol,

(b)

darparu unrhyw wasanaethau er eu hiechyd neu er eu cyfleuster i’w defnyddio gan y rhai sy’n meddiannu safleoedd cartrefi symudol, ac

(c)

darparu lle gweithio a chyfleusterau i gynnal gweithgareddau y maent yn arfer eu cynnal, mewn safleoedd ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr neu mewn cysylltiad â’r safleoedd hynny.

(3)

Wrth arfer ei bwerau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

(4)

Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (1) i ddarparu safle rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub—

(a)

o ran mesurau sydd i’w cymryd i atal a chanfod tân ar y safle, a

(b)

o ran darparu a chynnal a chadw dulliau ymladd tân arno.

(5)

Rhaid i awdurdod lleol godi unrhyw daliadau rhesymol y bydd yn penderfynu arnynt mewn perthynas â safleoedd a reolir ganddo, ac ag unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir neu y trefnir eu bod ar gael o dan yr adran hon.

(6)

Caiff awdurdod lleol drefnu bod gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan yr adran hon ar gael i bersonau p’un a ydynt yn byw fel arfer yn ei ardal neu beidio.

(7)

Caiff awdurdod lleol, os yw’n ymddangos iddo—

(a)

bod angen safle i gartrefi symudol neu safle ychwanegol i gartrefi symudol yn ei ardal, neu

(b)

y dylai’r awdurdod lleol gymryd drosodd tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol er lles defnyddwyr cartrefi symudol lleol,

gaffael tir, neu unrhyw fuddiant mewn tir, yn orfodol.

(8)

Nid yw’r pŵer a roddir gan is-adran (7) yn arferadwy mewn unrhyw achos penodol ond os yw’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i’w arfer.

(9)

Mae Deddf Caffael Tir 1981 yn effeithiol o ran caffael tir, neu fuddiant mewn tir, o dan is-adran (7).

(10)

Nid oes gan awdurdod lleol bŵer o dan yr adran hon i ddarparu cartrefi symudol.