55DehongliLL+C
(1)Yn y Rhan hon—
ystyr “y corff barnwrol priodol” (“the appropriate judicial body”) yw p’un bynnag ai’r llys ynteu tribiwnlys sydd ag awdurdodaeth o dan adran 54;
ystyr “cytundeb cymrodeddu” (“arbitration agreement”) yw cytundeb mewn ysgrifen i gyflwyno at gymrodeddu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo;
ystyr “llain” (“pitch”) yw’r tir, sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig ac sy’n cynnwys unrhyw ardal ardd, y mae gan feddiannydd hawl i osod cartref symudol arno o dan delerau’r cytundeb;
ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain nad yw’n llain dramwy;
ystyr “llain dramwy” (“transit pitch”) yw llain y mae gan berson hawl i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb am gyfnod gosodedig o hyd at 3 mis;
ystyr “y llys” (“the court”) yw llys sirol yr ardal y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli ynddi neu, os yw’r partïon wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i’r cwestiwn sydd i’w benderfynu, y cymrodeddwr;
mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir gan adran 48(2) (ond gweler is-adran (2)(b) hefyd);
mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir gan adran 52(2);
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl neu, os yw’r partïon wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i’r cwestiwn sydd i’w benderfynu a bod y cwestiwn hwnnw wedi codi cyn i’r cytundeb gael ei wneud, y cymrodeddwr.
(2)O ran cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—
(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at y perchennog yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sydd wedi ei rwymo gan y cytundeb ac sydd â hawl i fanteisio arno yn rhinwedd is-adran (1) o adran 53, a
(b)yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at y meddiannydd yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sydd â hawl i fanteisio ar y cytundeb ac sydd wedi ei rwymo ganddo yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o’r adran honno.
(3)At ddibenion y Rhan hon mae’r canlynol yn aelodau o deulu person—
(a)priod neu bartner sifil y person neu unrhyw berson sy’n byw gyda’r person fel partner mewn perthynas deuluol barhaus,
(b)rhieni, tad-cuoedd/teidiau a mam-guoedd/neiniau, plant ac wyrion ac wyresau (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus) ac unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel plentyn i deulu’r person, ac
(c)brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, neiaint a nithoedd y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 55 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)