RHAN 4CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

54Awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llys

1

Mae gan dribiwnlys awdurdodaeth—

a

i benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo, a

b

i ystyried unrhyw achos a ddygir o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb o’r fath,

yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (6).

2

Mae is-adran (1) yn gymwys o ran cwestiwn ni waeth am unrhyw beth a gynhwyswyd mewn cytundeb cymrodeddu a wnaed cyn i’r cwestiwn hwnnw godi.

3

Mae gan y llys awdurdodaeth—

a

i benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi yn rhinwedd paragraff 5, 6, 7(1)(b), 38, 39 neu 40(1)(b) o Atodlen 2 o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo, a

b

i ystyried unrhyw achos sy’n codi yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ddygir o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb o’r fath,

yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).

4

Mae is-adran (5) yn gymwys os yw’r perchennog a’r meddiannydd wedi gwneud cytundeb cymrodeddu cyn i’r cwestiwn a grybwyllir yn is-adran (3)(a) godi a bod y cytundeb yn gymwys i’r cwestiwn hwnnw.

5

Mae gan dribiwnlys awdurdodaeth i benderfynu ar y cwestiwn ac i ystyried unrhyw achos sy’n codi yn lle’r llys.

6

Mae is-adran (5) yn gymwys ni waeth am unrhyw beth a gynhwyswyd yn y cytundeb cymrodeddu a grybwyllir yn is-adran (4).