RHAN 4CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL
51Pŵer i ddiwygio telerau ymhlyg
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud unrhyw ddiwygiadau i Atodlen 2, heblaw paragraff 11, sydd yn eu barn hwy yn briodol.
(2)
Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-adran (1), caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)
gwneud darpariaeth ynglŷn â phenderfynu ar unrhyw gwestiynau gan y llys neu gan dribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hynny, neu ynglŷn â gwneud unrhyw orchmynion gan y llys neu gan dribiwnlys, a bennir yn y gorchymyn, neu
(b)
gwneud unrhyw ddiwygiadau i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir yn Atodlen 2 drwy’r gorchymyn.