RHAN 4CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL
I1I250Telerau cytundebau
1
Mae’r telerau cymwys a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymhlyg mewn unrhyw gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo; ac mae’r is-adran hon yn effeithiol er gwaethaf unrhyw deler datganedig yn y cytundeb.
2
Caiff y corff barnwrol priodol, ar gais gan y naill barti neu’r llall, a’r cais hwnnw wedi ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol, orchymyn bod telerau ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’w hymhlygu yn y cytundeb.
3
Caiff y corff barnwrol priodol, ar gais gan y naill barti neu’r llall, a’r cais hwnnw wedi ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol, wneud gorchymyn—
a
yn amrywio neu’n dileu unrhyw deler datganedig yn y cytundeb heblaw am reol safle,
b
yn achos unrhyw deler datganedig y mae adran 49(4) yn gymwys iddo heblaw am reol safle, yn darparu i’r teler gael effaith lawn neu gael unrhyw effaith yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad a bennir yn y gorchymyn.
4
Yn is-adrannau (2) a (3) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir y cytundeb ac sy’n dod i ben—
a
6 mis ar ôl y dyddiad hwnnw, neu
b
os rhoddir datganiad ysgrifenedig sy’n ymwneud â’r cytundeb i’r meddiannydd ar ôl y dyddiad hwnnw (boed i gydymffurfio â gorchymyn o dan adran 49(5) neu beidio), 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r datganiad;
ac mae is-adran (7) o adran 49 yn gymwys at ddibenion yr is-adran hon fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adran honno.
5
Ar gais o dan yr adran hon, rhaid i’r corff barnwrol priodol wneud unrhyw ddarpariaeth y mae o’r farn ei bod yn gyfiawn ac yn deg o dan yr amgylchiadau.
6
Nid yw is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n meddiannu neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.