RHAN 4CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL
48Cytundebau y mae’r Rhan yn gymwys iddynt
(1)
Mae’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw gytundeb y mae gan berson hawl odano—
(a)
i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig, a
(b)
i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.
(2)
Yn y Rhan hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle gwarchodedig, yw’r person sydd â hawl fel y’i crybwyllir yn is-adran (1) o ran cartref symudol a’r safle gwarchodedig (ond gweler hefyd adran 55(2)(b)).