43Troseddau o dan adran 42: atodolLL+C
(1)Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(2) neu (3) mae’n amddiffyniad profi bod y cyhuddedig yn credu, a bod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod meddiannydd y cartref symudol wedi rhoi’r gorau i fyw ar y safle.
(2)Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(5) mae’n amddiffyniad profi bod gan y cyhuddedig sail resymol dros wneud y gweithredoedd neu dynnu’n ôl neu gadw’n ôl y gwasanaethau neu’r cyfleusterau o dan sylw.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 42 yn agored—
(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn [F1fwy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)] , neu i’r ddau, neu
(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 43(3)(a) wedi eu hamnewid (7.2.2023 am 12.00 p.m.) gan The Judicial Review and Courts Act 2022 (Magistrates’ Court Sentencing Powers) Regulations 2023 (O.S. 2023/149), rhlau. 1(2), 28(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 43 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)