RHAN 3AMDDIFFYN RHAG TROI ALLAN
I1I243Troseddau o dan adran 42: atodol
1
Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(2) neu (3) mae’n amddiffyniad profi bod y cyhuddedig yn credu, a bod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod meddiannydd y cartref symudol wedi rhoi’r gorau i fyw ar y safle.
2
Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(5) mae’n amddiffyniad profi bod gan y cyhuddedig sail resymol dros wneud y gweithredoedd neu dynnu’n ôl neu gadw’n ôl y gwasanaethau neu’r cyfleusterau o dan sylw.
3
Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 42 yn agored—
a
o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn F1fwy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr) , neu i’r ddau, neu
b
o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.