RHAN 3AMDDIFFYN RHAG TROI ALLAN
40Cymhwyso’r Rhan
Mae’r Rhan hon yn gymwys o ran unrhyw drwydded neu gontract (pryd bynnag y’u gwneir) y mae gan berson hawl odano—
(a)
i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig a’i feddiannu fel preswylfa’r person, neu
(b)
os yw’r cartref symudol wedi ei osod ar y safle gwarchodedig gan rywun arall, i’w feddiannu fel preswylfa’r person.