xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CTRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

CyflwyniadLL+C

4Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig a materion perthynol.

(2)Yn y Rhan hon—

(a)mae adrannau 5 i 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedau safle,

(b)mae adrannau 9 i 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch amodau trwyddedau safle,

(c)mae adrannau 26 a 27 yn gwneud darpariaeth ynghylch dirymu ac ildio trwyddedau safle,

(d)mae adrannau 28 a 29 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr safleoedd fod yn bersonau addas a phriodol,

(e) mae adrannau 30 a 31 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi rheolwyr interim,

(f)mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys darpariaethau eraill ynglŷn â gorfodi, ac

(g)mae adrannau 34 i 39 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ac atodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)