(1)Yn y Rhan hon—
F1...
ystyr “gorchymyn datblygu” (“development order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
(2)Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.
(3)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.
(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad.F2....
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 39(1) wedi eu hepgor (1.12.2014) yn rhinwedd Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 30(4); O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
F2Geiriau yn a. 39(4) wedi eu hepgor (10.9.2025) yn rhinwedd Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (asc 3), a. 9(2)(d), Atod. 1 para. 6
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)